1. Cadw fi Duw, cans rhois fy mhwysa’m coel yn dradwys arnad:
2. Fy Arglwydd wyd: mae dan fy mron,y gyffes hon yn wastad:Nad lles yt yw na’m da, na’m rhin:
3. ond i drin sanct daiarol,Llesu’r rhai’n fy ’wyllys yw,y rhai sy’n byw’n rhinweddol.
4. I’r rhai a redant at Dduw gau,y daw gofidiau amlder:Eu diod offrwm o waed, nioffrymaf fi un amser.
5. Ni henwaf chwaith, yr Arglwydd ywfy modd i fyw, a’m phiol:A thydi Ior sy’n rhoi ’mi ran,a chyfran yn ddigonol.
6. A thrwy Dduw syrthiodd i mi rano fewn y fan hyfrydaf:Digwyddodd ymy, er fy maeth,yr etifeddiaeth lanaf.
7. Bendithiaf finnau Dduw fy Ior,hwn a roes gyngor ymmy,F’arennau hefyd ddydd a nos,sydd ym yn dangos hynny.