1. Mi a’th fawrygaf di, fy Nuw,cans tydi yw fy llywydd:Bendithio dy enw byth a wnaf,mi a’i molaf yn dragywydd.
2. Dy enw a folaf fi bob dydd,a’th glod a fydd heb orphen.
3. Yr Arglwydd sydd glodfawr heb wedd,a’i fowredd sydd heb ddiben.
4. Cenedl wrth genedl a ront fawli’th ogoneddawl wrthiau:Gan danu dy nerth rhyd y byd,a dwedyd dy gynneddfau.
5. Am dy ogonedd mawr, fy Naf,mynegaf, a’th gadernyd.
6. Son am dy bethau ofnadwy,gwnant hwy a minnau hefyd.
7. Llwyr goffadwriaeth honot ti,a’th fawr ddaioni traethant:Ac o’th gyfiownder, fy Nuw Ion,a llafar don y canant:
8. Sef graslawn yw ein Arglwydd ni,ac o dosturi rhyfedd:Hwyr ac anniben yw i ddig:llawn-frydig i drugaredd.
9. Da yw yr Arglwydd i bob dyn,a’i nodded sy’n dycciannol:Ac ar ei holl weithredoedd efdaw nawdd o’r nef yn rasol.
10. Dy holl weithredoedd di i’th lwydd,o Arglwydd a’th glodforant:Dy wyrth pan welo dy Sainct di,y rhei’ni a’th fendithiant.
11. Gan son am drugaredd a grâsdy dyrnas, a’i chadernyd:Fal dyna’r gerdd sydd yn parhau,yn eu geneuau hyfryd.
12. Fel y parent drwy hyfryd glod,gydnabod a’th dyrnasiad:A’th nerth ym mysg holl ddynol blant,a’th lawn ogoniant gwastad.
13. Brenhiniaeth dy dyrnas di fry,a bery yn wastadol:A’th lywodraeth o oed i oed,hon a roed yn dragwyddol.