11. Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion,rhowch arno’ch union hollfryd.Efe yw’r neb a’ch dwg i’r lan,eich porth a’ch tarian hefyd.
12. Duw nef a’n cofiodd, ac i’n plithfo roes ei fendith rhadlon:I dy Israel rhydd ei hedd,ac unwedd i dy Aaron.
13. Sawl a’i hofnant bendithiant ef,yr Arglwydd nef canmolan:A’i enw sanct o’r nef i’r llawr,bendithied mawr a bychan:
14. Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi,a wna ddaioni amlach.Ac a chwanega ar eich plantei fwyniant yn rymusach.
15. Y mae ywch fendith a mawr lwydd,gan y gwir Arglwydd cyfiawn,Yr hwn a wnaeth y nefoedd fry,ar ddayar obry yn gyflawn.
16. Y nef, ie’r nefoedd uwchlaw,sy yn eiddaw Duw yr Ion:Ar ddaiar, lle y preswyliant,a roes ef i blant dynion.