1. O Dduw fy moliant i na thau,
2. cans genau’r annuwiolion:A’i tafod twyllgar, a’i safn rhwth,arnaf sy’n bygwth digon.
3. Daethant i’m cylch â geiriau câs,rhoent ddiflas sen anynad.
4. Fal hyn i’m talent ddrwg dros dda,
5. a chas a gaf am gariad.Ac fel yr oeddynt hwy fal hyn,i’m herbyn wedi codi,Fy wyneb attad ti a drois,ac arnat rhois fy ngweddi.
6. Bid Sathan ar ei ddehau law,i’r swydd y daw yn barod,
7. A phan roer barn, yn euog boed,a’i weddi troed yn bechod.
8. Bo ei oes yn fer, ac yn ddilwydd,a’i swydd arall iw chymryd.
9. Poed yn ymddifaid y bo ei blant,a’i weddw yn fethiant hefyd.
10. A boed ei blant yn crwydro byd,i gymryd mân gerdodau:A cheisiant hyn rhyd dyrys dir,lle bytho hir eu prydiau.