1. Dyma arwydd rhyfeddol yn ymddangos yn y nefoedd: gwraig wedi ei gwisgo â'r haul. Roedd y lleuad dan ei thraed ac roedd coron o saith seren ar ei phen.
2. Roedd y wraig yn feichiog ac yn gweiddi mewn poen am fod y plentyn wedi dechrau cael ei eni.
3. A dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a deg corn, a saith coron ar ei phennau.
4. Dyma gynffon y ddraig yn ysgubo un rhan o dair o'r sêr o'r awyr ac yn eu taflu i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin geni plentyn, yn barod i lyncu ei phlentyn yr eiliad y byddai yn cael ei eni.
5. Cafodd y wraig fab – bachgen fydd yn teyrnasu dros yr holl genhedloedd gyda theyrnwialen haearn. Dyma'r plentyn yn cael ei gipio i fyny at Dduw ac at ei orsedd.
6. Dyma'r wraig yn dianc i'r anialwch i le oedd Duw wedi ei baratoi iddi, lle byddai hi'n ddiogel am fil dau gant chwe deg diwrnod.
7. Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael a'i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig. Roedd y ddraig a'i hangylion yn ymladd yn ôl,
8. ond doedd hi ddim digon cryf, a dyma nhw'n colli eu lle yn y nefoedd.