1. Un diwrnod, am dri o'r gloch y p'nawn, roedd Pedr ac Ioan ar eu ffordd i'r deml i'r cyfarfod gweddi.
2. Wrth y fynedfa sy'n cael ei galw ‛Y Fynedfa Hardd‛ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i'r deml.
3. Pan oedd Pedr ac Ioan yn pasio heibio gofynnodd iddyn nhw am arian.
4. Dyma'r ddau yn edrych arno, a dyma Pedr yn dweud, “Edrych arnon ni.”
5. Edrychodd y dyn arnyn nhw, gan feddwl ei fod yn mynd i gael rhywbeth ganddyn nhw.
6. “Does gen i ddim arian i'w roi i ti,” meddai Pedr, “ond cei di beth sydd gen i i'w roi. Dw i'n dweud hyn gydag awdurdod Iesu y Meseia o Nasareth – cod ar dy draed a cherdda.”
7. Yna gafaelodd yn llaw dde y dyn a'i helpu i godi ar ei draed. Cryfhaodd traed a choesau'r dyn yr eiliad honno,
8. a dyma fe'n neidio ar ei draed a dechrau cerdded! Aeth i mewn i'r deml gyda nhw, yn neidio ac yn moli Duw.