Wrth y fynedfa sy'n cael ei galw ‛Y Fynedfa Hardd‛ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i'r deml.