1. Yn olaf, ffrindiau, gweddïwch droson ni. Gweddïwch y bydd neges yr Arglwydd yn mynd ar led yn gyflym, ac yn cael ei derbyn yn frwd fel y cafodd gynnoch chi.
2. A gweddïwch hefyd y byddwn ni'n cael ein hamddiffyn rhag pobl gas a drwg. Dydy pawb ddim yn dod i gredu'r neges!
3. Ond mae'r Arglwydd yn ffyddlon; bydd e'n rhoi nerth i chi ac yn eich cadw chi'n ddiogel rhag yr un drwg.
4. Ac mae'r Arglwydd yn ein gwneud ni'n hyderus eich bod chi'n gwneud beth ddwedon ni wrthoch chi, ac y gwnewch chi ddal ati i wneud hynny.
5. Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn eich arwain chi i garu Duw a dal ati i ymddiried yn llwyr ynddo fe, y Meseia.
6. Nawr, dŷn ni'n rhoi gorchymyn i chi, ffrindiau annwyl (ac mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd Iesu Grist i wneud hynny): Cadwch draw oddi wrth unrhyw Gristion sy'n gwrthod gweithio a ddim yn byw fel y dysgon ni i chi fyw.
7. Dilynwch ein hesiampl ni. Fuon ni ddim yn ddiog pan oedden ni gyda chi.
8. Doedden ni ddim yn cymryd mantais o bobl eraill drwy fwyta yn eu cartrefi nhw heb dalu am ein lle. Yn hollol fel arall! Roedden ni'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni.
9. Er bod gynnon ni hawl i ddisgwyl help gynnoch chi, roedden ni am roi esiampl i chi a bod yn batrwm i chi ei ddilyn.
10. “Os ydy rhywun yn gwrthod gweithio, dydy e ddim i gael bwyta” – dyna ddwedon ni pan oedden ni gyda chi.
11. Ond dŷn ni wedi clywed bod rhai ohonoch chi'n diogi. Pobl yn treulio'u hamser yn busnesa yn lle gweithio.