13. Byddi di yn codi ac yn dangos trugaredd at Seion eto.Mae'n bryd i ti fod yn garedig ati!Mae'r amser i wneud hynny wedi dod.
14. Mae dy weision yn caru ei meini,ac yn teimlo i'r byw wrth weld y rwbel!
15. Wedyn bydd y cenhedloedd yn parchu enw'r ARGLWYDD.Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn ofni ei ysblander.
16. Bydd yr ARGLWYDD yn ailadeiladu Seion!Bydd yn cael ei weld yn ei holl ysblander.
17. Achos mae e'n gwrando ar weddi y rhai sydd mewn angen;dydy e ddim yn diystyru eu cri nhw.
18. Dylai hyn gael ei ysgrifennu i lawr ar gyfer y dyfodol,er mwyn i bobl sydd heb gael eu geni eto, foli'r ARGLWYDD.
19. Bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o'i gysegr uchel iawn,Bydd yn edrych i lawr ar y ddaear o'r nefoedd uchod,
20. ac yn gwrando ar riddfan y rhai oedd yn gaeth.Bydd yn rhyddhau y rhai oedd wedi eu condemnio i farwolaeth.
21. Wedyn bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi o Seion,a bydd e'n cael ei addoli yn Jerwsalem.
22. Bydd pobl o'r gwledydd i gydyn dod at ei gilydd i addoli'r ARGLWYDD.
23. Mae wedi ysigo fy nerth i ar ganol y daith,Mae wedi penderfynu rhoi bywyd byr i mi.