5. Ar ôl gadael Rameses, dyma bobl Israel yn gwersylla yn Swccoth.
6. Yna gadael Swccoth a gwersylla yn Etham, sydd ar ymyl yr anialwch.
7. Gadael Etham a mynd yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-tseffon, a gwersylla wrth ymyl Migdol.
8. Gadael Pi-hachiroth, a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch yr ochr draw. Yna teithio am dri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersylla yn Mara.
9. Gadael Mara a gwersylla yn Elim, lle roedd deuddeg ffynnon a saith deg coeden balmwydd.
10. Gadael Elim a gwersylla wrth y Môr Coch.
11. Gadael y Môr Coch a gwersylla yn Anialwch Sin.
12. Yna gadael Anialwch Sin a gwersylla yn Doffca.
13. Gadael Doffca a gwersylla yn Alwsh.
14. Gadael Alwsh a gwersylla yn Reffidim, lle doedd dim dŵr i bobl ei yfed.
15. Gadael Reffidim a gwersylla yn anialwch Sinai.
16. Gadael anialwch Sinai a gwersylla yn Cibroth-hattaäfa.
17. Yna gadael Cibroth-hattaäfa a gwersylla yn Chatseroth.