38. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Aaron yr offeiriad am fynd i ben Mynydd Hor. A dyna lle buodd Aaron farw, ar ddiwrnod cynta'r pumed mis, bedwar deg o flynyddoedd ar ôl i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft.
39. Roedd Aaron yn gant dau ddeg tri mlwydd oed pan fu farw.
40. Wedyn clywodd brenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef (de gwlad Canaan), fod pobl Israel ar eu ffordd.
41. Yna dyma bobl Israel yn gadael Mynydd Hor a gwersylla yn Salmona.
42. Yna gadael Salmona a gwersylla yn Pwnon.
43. Gadael Pwnon a gwersylla yn Oboth.
44. Gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm, ar y ffin gyda Moab.
45. Gadael Ïe-hafarîm a gwersylla yn Dibon-gad.
46. Gadael Dibon-gad a gwersylla yn Almon-diblathaim.
47. Gadael Almon-diblathaim a gwersylla ym mynyddoedd Afarîm, gyferbyn â Nebo.
48. Gadael mynyddoedd Afarîm a gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
49. (Roedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, yr holl ffordd o Beth-ieshimoth i Abel-sittim.)
50. Pan oedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
51. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi wedi croesi'r Iorddonen a mynd i mewn i wlad Canaan
52. dw i eisiau i chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad. Rhaid i chi ddinistrio'r eilunod wedi eu cerfio, a'r delwau o fetel tawdd, a chwalu'r allorau paganaidd i gyd.
53. Dw i eisiau i chi gymryd y wlad drosodd, a setlo i lawr ynddi. Dw i wedi rhoi'r wlad i chi. Chi piau hi.
54. “‘Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y claniau drwy fwrw coelbren. Mae faint o dir mae pob clan yn ei etifeddu yn dibynnu ar faint y clan – pa mor fawr neu fach ydy e. Ond mae'r lleoliad yn dibynnu ar ble mae'r coelbren yn syrthio. Mae i'w rannu rhwng llwythau'r hynafiaid.