Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm â Duw, pa un bynnag o'r pethau hyn mae e wedi ei wneud o'i le, a bydd Duw yn maddau iddo. Mae'r offeiriad yn cael gweddill y blawd, fel gyda'r offrwm o rawn.”