5. Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;)
6. Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd?
7. Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau eto megis pechadur?
8. Ac nid, (megis y'n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.
9. Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o'r blaen fod pawb, yr Iddewon a'r Groegwyr, dan bechod;
10. Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un:
11. Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw.
12. Gŵyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un.
13. Bedd agored yw eu ceg; â'u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau:
14. Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd:
15. Buan yw eu traed i dywallt gwaed:
16. Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd: