14. A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o'r cryd.
15. Ac efe a gyffyrddodd â'i llaw hi; a'r cryd a'i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.
16. Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac a iachaodd yr holl gleifion;
17. Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.
18. A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i'r lan arall.
19. A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
20. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.
21. Ac un arall o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.
22. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i'r meirw gladdu eu meirw.