15. A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai'r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant.
16. A'r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i'r cythreulig, ac am y moch.
17. A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o'u goror hwynt.
18. Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasai'r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef.
19. Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt.
20. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
21. Ac wedi i'r Iesu drachefn fyned mewn llong i'r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato: ac yr oedd efe wrth y môr.
22. Ac wele, un o benaethiaid y synagog a ddaeth, a'i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef;
23. Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw fydd.
24. A'r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwasgasant ef.
25. A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,
26. Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waethwaeth,