12. Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau.
13. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi'r ddameg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?
14. Yr heuwr sydd yn hau'r gair.
15. A'r rhai hyn yw'r rhai ar fin y ffordd, lle yr heuir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt.
16. A'r rhai hyn yr un ffunud yw'r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen;
17. Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.
18. A'r rhai hyn yw'r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant y gair,
19. Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu'r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.
20. A'r rhai hyn yw'r rhai a heuwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
21. Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i'w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i'w gosod ar ganhwyllbren?
22. Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb.