42. Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr,
43. Sef rhan y gynulleidfa o'r defaid, oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;
44. Ac o'r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain;
45. Ac o'r asynnod, deng mil ar hugain a phum cant;
46. Ac o'r dynion, un fil ar bymtheg.
47. Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o'r dynion, ac o'r anifeiliaid, ac a'u rhoddes hwynt i'r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
48. A'r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd:
49. A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom.
50. Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i'r Arglwydd, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glustlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr Arglwydd.
51. A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn gweithgar oll.
52. Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymasant i'r Arglwydd, oddi wrth gapteiniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd, yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau.
53. (Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.)
54. A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd, ac a'i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel gerbron yr Arglwydd.