53. I'r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau.
54. I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion.
55. Eto wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant
56. Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.
57. A dyma rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid.
58. Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid, tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a genhedlodd Amram.
59. Ac enw gwraig Amram oedd Jochebed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt.
60. A ganed i Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.
61. A bu farw Nadab ac Abihu, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd.
62. A'u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod: canys ni chyfrifwyd hwynt ymysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhlith meibion Israel.
63. Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
64. Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad, pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai.