3. Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y'th flinais? tystiolaetha i'm herbyn.
4. Canys mi a'th ddygais o dir yr Aifft, ac a'th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o'th flaen Moses, Aaron, a Miriam.
5. Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr Arglwydd.
6. Â pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel Dduw? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â dyniewaid?
7. A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid?
8. Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw?
9. Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, a'r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd.
10. A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a'r mesur prin, peth sydd ffiaidd?
11. A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus?
12. Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.