19. A bod yn lle y cornwyd chwydd gwyn, neu ddisgleirder gwyngoch, a'i ddangos i'r offeiriad:
20. Os, pan edrycho yr offeiriad arno, y gwelir ef yn is na'r croen, a'i flewyn wedi troi yn wyn; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw efe wedi tarddu o'r cornwyd.
21. Ond os yr offeiriad a'i hedrych; ac wele, ni bydd ynddo flewyn gwyn, ac ni bydd is na'r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.
22. Ac os gan ledu y lleda yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla yw efe.
23. Ond os y disgleirder a saif yn ei le, heb ymledu, craith cornwyd yw efe; a barned yr offeiriad ef yn lân.
24. Os cnawd fydd â llosgiad yn y croen, a bod i'r cig byw sydd yn llosgi, ddisgleirder gwyngoch, neu wyn;
25. Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os blewyn yn y disgleirdeb fydd wedi troi yn wyn, ac yn is i'w weled na'r croen; gwahanglwyf yw hwnnw yn tarddu o'r llosgiad; a barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw.
26. Ond os yr offeiriad a'i hedrych; ac wele, ni bydd blewyn gwyn yn y disgleirder, ac ni bydd is na'r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod.
27. Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd: os gan ledu y lledodd yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw.
28. Ac os y disgleirdeb a saif yn ei le, heb ledu yn y croen, ond ei fod yn odywyll; chwydd y llosgiad yw efe; barned yr offeiriad ef yn lân: canys craith y llosgiad yw hwnnw.
29. Os bydd gŵr neu wraig â phla arno mewn pen neu farf;
30. Yna edryched yr offeiriad y pla: ac wele, os is y gwelir na'r croen, a blewyn melyn main ynddo; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: y ddufrech yw hwnnw; gwahanglwyf pen neu farf yw.
31. Ac os yr offeiriad a edrych ar bla'r ddufrech; ac wele, ni bydd yn is ei weled na'r croen, ac heb flewyn du ynddo; yna caeed yr offeiriad ar yr hwn y bo arno y ddufrech, saith niwrnod.
32. Ac edryched yr offeiriad ar y pla y seithfed dydd: ac wele, os y ddufrech ni bydd wedi lledu, ac ni bydd blewyn melyn ynddi, a heb fod yn is gweled y ddufrech na'r croen;
33. Yna eillier ef, ac nac eillied y fan y byddo y ddufrech; a chaeed yr offeiriad ar berchen y ddufrech saith niwrnod eilwaith.
34. A'r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddufrech: ac wele, os y ddufrech ni ledodd yn y croen, ac ni bydd is ei gweled na'r croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân, a golched ei ddillad, a glân fydd.
35. Ond os y ddufrech gan ledu a leda yn y croen, wedi ei lanhau ef;
36. Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os lledodd y ddufrech yn y croen, na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn: y mae efe yn aflan.
37. Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef, a blewyn du wedi tyfu ynddi; aeth y ddufrech yn iach, glân yw hwnnw; a barned yr offeiriad ef yn lân.