8. A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn, a'u meysydd pentrefol, fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses, wrth goelbren.
9. A hwy a roddasant, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau;
10. Fel y byddent i feibion Aaron, o deuluoedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf.
11. A rhoddasant iddynt Gaer‐Arba, tad Anac, honno yw Hebron, ym mynydd‐dir Jwda, a'i meysydd pentrefol oddi amgylch.
12. Ond maes y ddinas, a'i phentrefydd, a roddasant i Caleb mab Jeffunne, yn etifeddiaeth iddo ef.
13. Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a'i meysydd pentrefol, yn ddinas nodded i'r llofrudd; a Libna a'i meysydd pentrefol,
14. A Jattir a'i meysydd pentrefol, ac Estemoa a'i meysydd pentrefol,
15. A Holon a'i meysydd pentrefol, a Debir a'i meysydd pentrefol,
16. Ac Ain a'i meysydd pentrefol, a Jwtta a'i meysydd pentrefol, a Beth‐semes a'i meysydd pentrefol: naw dinas o'r ddau lwyth hynny.
17. Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a'i meysydd pentrefol, a Geba a'i meysydd pentrefol,
18. Anathoth a'i meysydd pentrefol, ac Almon a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.
19. Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a'u meysydd pentrefol.
20. A chan deuluoedd meibion Cohath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim.
21. A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a'i meysydd pentrefol,
22. A Cibsaim a'i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a'i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.