19. Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll.
20. Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a'r cadarn a symudir heb waith llaw.
21. Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef.
22. Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio.
23. Canys ni esyd Duw ar ddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw.
24. Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt.
25. Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir.
26. Efe a'u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg:
27. Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o'i ffyrdd ef:
28. Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol.
29. Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig:
30. Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl.
31. Ond wrth Dduw, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd;
32. Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy.
33. Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a'i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis; ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost.