9. Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau.
10. Pendefigion a dawent â sôn, a'u tafod a lynai wrth daflod eu genau.
11. Pan y'm clywai clust, hi a'm bendithiai; a phan y'm gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi:
12. Am fy mod yn gwaredu'r tlawd a fyddai yn gweiddi, a'r amddifad, a'r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.
13. Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.
14. Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a'm barn fyddai fel mantell a choron.
15. Llygaid oeddwn i'r dall; a thraed oeddwn i'r cloff.
16. Tad oeddwn i'r anghenog; a'r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan.
17. Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o'i ddannedd ef.
18. Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â'r tywod.
19. Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a'r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig.