1. A'r brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim, yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda.
2. Ond ni wrandawodd efe, na'i weision na phobl y tir, ar eiriau yr Arglwydd, y rhai a draethodd efe trwy law Jeremeia y proffwyd.
3. A'r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Gweddïa, atolwg, drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw.
4. A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl: canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy.
5. A llu Pharo a ddaethai allan o'r Aifft: a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt, hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem.
6. Yna gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd,
7. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda, yr hwn a'ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn â mi; Wele, llu Pharo, yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel i'w wlad ei hun, i'r Aifft.
8. A'r Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac a'i henillant, ac a'i llosgant â thân.