1. At dy safn â'r utgorn. Fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ yr Arglwydd, am iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith.
2. Israel a lefant arnaf, Fy Nuw, nyni a'th adwaenom di.
3. Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a'i herlid yntau.
4. Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o'u harian a'u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.
5. Samaria, dy lo a'th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i'w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd?
6. Canys o Israel y mae; y saer a'i gwnaeth; am hynny nid yw efe Dduw: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria.
7. Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a'i llwnc.
8. Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo.
9. Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau.
10. Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr mi a'u casglaf hwynt: canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion.