Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef.

2. I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi.

3. Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd.

4. Efe a wnaeth fy nghnawd a'm croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn.

5. Efe a adeiladodd i'm herbyn, ac a'm hamgylchodd â bustl ac â blinder.

6. Efe a'm gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm.

7. Efe a gaeodd o'm hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom.

8. Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi.

9. Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau.

10. Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau.

11. Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi.

12. Efe a anelodd ei fwa, ac a'm gosododd fel nod i saeth.

13. Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i'm harennau.

14. Gwatwargerdd oeddwn i'm holl bobl, a'u cân ar hyd y dydd.

15. Efe a'm llanwodd â chwerwder; efe a'm meddwodd i â'r wermod.

16. Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a'm trybaeddodd yn y llwch.

17. A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni.

18. A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a'm gobaith oddi wrth yr Arglwydd.

19. Cofia fy mlinder a'm gofid, y wermod a'r bustl.

20. Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi.

21. Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.

22. Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef.

23. Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.

24. Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.

25. Daionus yw yr Arglwydd i'r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i'r enaid a'i ceisio.

26. Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd.

27. Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid.

28. Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno.

29. Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith.

30. Efe a ddyry ei gern i'r hwn a'i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd.

31. Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd:

32. Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau.

33. Canys nid o'i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion.

34. I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed,

35. I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf,

36. Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater.

37. Pwy a ddywed y bydd dim, heb i'r Arglwydd ei orchymyn?

38. Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da?

39. Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod?

40. Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd.

41. Dyrchafwn ein calonnau a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd.

42. Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist.

43. Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist.

44. Ti a'th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd.

45. Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl.

46. Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn.

47. Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr.

48. Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl.

49. Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra;

50. Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr Arglwydd o'r nefoedd.

51. Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas.

52. Fy ngelynion gan hela a'm heliasant yn ddiachos, fel aderyn.

53. Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf.

54. Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.

55. Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o'r pwll isaf.

56. Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a'm gwaedd.

57. Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna.

58. Ti, O Arglwydd, a ddadleuaist gyda'm henaid: gwaredaist fy einioes.

59. Ti, O Arglwydd, a welaist fy ngham: barn di fy marn i.

60. Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a'u holl amcanion i'm herbyn i.

61. Clywaist eu gwaradwydd, O Arglwydd, a'u holl fwriadau i'm herbyn;

62. Gwefusau y rhai a godant i'm herbyn, a'u myfyrdod i'm herbyn ar hyd y dydd.

63. Edrych ar eu heisteddiad a'u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.

64. Tâl y pwyth iddynt, O Arglwydd, yn ôl gweithred eu dwylo.

65. Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt.

66. Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr Arglwydd.