1. Cofia, O Arglwydd, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd.
2. Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.
3. Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon.
4. Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth.
5. Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni.
6. Rhoesom ein llaw i'r Eifftiaid, i'r Asyriaid, i gael digon o fara.
7. Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt.
8. Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a'n gwaredo o'u llaw hwynt.
9. Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch.
10. Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost.
11. Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a'r morynion yn ninasoedd Jwda.
12. Crogasant dywysogion â'u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr.
13. Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a'r plant a syrthiasant dan y coed.
14. Yr hynafgwyr a beidiasant â'r porth; y gwŷr ieuainc â'u cerdd.
15. Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar.
16. Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom!
17. Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid.
18. Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo.
19. Ti, Arglwydd, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd.
20. Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau?
21. Dychwel ni, O Arglwydd, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt.
22. Eithr ti a'n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.