13. Yna y dywedodd Esther, O rhyglydda bodd i'r brenin, caniataer yfory i'r Iddewon sydd yn Susan wneuthur yn ôl y gorchymyn heddiw: a chrogant ddeng mab Haman ar y pren.
14. A'r brenin a ddywedodd am wneuthur felly, a'r gorchymyn a roddwyd yn Susan: a hwy a grogasant ddeng mab Haman.
15. Felly yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar hefyd, ac a laddasant dri chant o wŷr yn Susan: ond nid estynasant eu llaw ar yr ysbail.
16. A'r rhan arall o'r Iddewon, y rhai oedd yn nhaleithiau y brenin a ymgasglasant, ac a safasant am eu heinioes, ac a gawsant lonyddwch gan eu gelynion, ac a laddasant bymtheng mil a thrigain o'u caseion: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith.
17. Ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Adar y bu hyn, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono y gorffwysasant, ac y cynaliasant ef yn ddydd gwledd a gorfoledd.
18. Ond yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono; ac ar y pymthegfed ohono y gorffwysasant, a gwnaethant ef yn ddydd cyfeddach a llawenydd.
19. Am hynny Iddewon y pentrefi, y rhai oedd yn trigo mewn dinasoedd heb gaerau, oedd yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis Adar, mewn llawenydd a chyfeddach, ac yn ddiwrnod daionus, ac i anfon rhannau i'w gilydd.
20. A Mordecai a ysgrifennodd y geiriau hyn, ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, yn agos ac ymhell,
21. I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar, a'r pymthegfed dydd ohono, bob blwyddyn;
22. Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a'r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i'w gilydd, a rhoddion i'r rhai anghenus.
23. A'r Iddewon a gymerasant arnynt wneuthur fel y dechreuasent, ac fel yr ysgrifenasai Mordecai atynt.