11. Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb.
12. Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi.
13. Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.
14. Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.
15. Gochel hi, na ddos ar hyd‐ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.
16. Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a'u cwsg a gollant, nes iddynt gwympo rhyw ddyn.
17. Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.
18. Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.
19. Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.
20. Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion.
21. Na ad iddynt fyned ymaith o'th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon.
22. Canys bywyd ydynt i'r neb a'u caffont, ac iechyd i'w holl gnawd.
23. Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.
24. Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.
25. Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o'th flaen.
26. Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn.
27. Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.