2. A dyma wedd y gollyngdod. Gollynged pob echwynnwr i'w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr Arglwydd.
3. Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyda'th frawd:
4. Megis na byddo ohonot ti gardotyn: canys yr Arglwydd gan fendithio a'th fendithia di, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i'w feddiannu;
5. Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.
6. Canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthyciech i genhedloedd lawer, ac na fenthyciech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.
7. Os bydd yn dy fysg di un o'th frodyr yn dlawd o fewn un o'th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd:
8. Ond gan agoryd agor dy law iddo, a chan fenthycio benthycia ddigon i'w angen ef, yr hyn fyddo arno ei eisiau.
9. Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw'r seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain ohono ef ar yr Arglwydd rhagot, a'i fod yn bechod i ti.
10. Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y'th fendithia yr Arglwydd dy Dduw yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno.
11. Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i'th frawd, i'th anghenus ac i'th dlawd, yn dy dir.
12. Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a'th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt.
13. A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag:
14. Gan lwytho llwytha ef o'th braidd, ac o'th ysgubor, ac o'th winwryf: o'r hyn y'th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo.
15. A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw.
16. Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a'th dŷ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi: