Deuteronomium 15:6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthyciech i genhedloedd lawer, ac na fenthyciech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.