3. Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid.
4. Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Beth‐rabbim; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.
5. Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.
6. Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a'm hyfrydwch!
7. Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a'th fronnau i'r grawnsypiau.
8. Dywedais, Dringaf i'r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn‐ganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau;
9. A thaflod dy enau megis y gwin gorau i'm hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.
10. Eiddo fy anwylyd ydwyf fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef.
11. Tyred, fy anwylyd, awn i'r maes, a lletywn yn y pentrefi.
12. Boregodwn i'r gwinllannoedd; edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau: yno y rhoddaf fy nghariad i ti.