1. A Dafydd a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan?
2. Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a'i enw Siba. A hwy a'i galwasant ef at Dafydd. A'r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe.
3. A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef? A dywedodd Siba wrth y brenin, Y mae eto fab i Jonathan, yn gloff o'i draed.