17. Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En‐rogel; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt. Hwythau a aethant ac a fynegasant i'r brenin Dafydd: canys ni allent hwy ymddangos i fyned i'r ddinas.
18. Eto llanc a'u gwelodd hwynt, ac a fynegodd i Absalom: ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan, ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim, ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd; a hwy a aethant i waered yno.
19. A'r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew, ac a daenodd arno falurion ŷd; fel na wybuwyd y peth.
20. A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i'r tŷ, hwy a ddywedasant, Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A'r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem.
21. Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith, yna y lleill a ddaethant i fyny o'r pydew, ac a aethant ac a fynegasant i'r brenin Dafydd; ac a ddywedasant wrth Dafydd, Cyfodwch, ac ewch yn fuan dros y dwfr; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi.
22. Yna y cododd Dafydd a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a aethant dros yr Iorddonen: erbyn goleuo'r bore nid oedd un yn eisiau a'r nad aethai dros yr Iorddonen.
23. A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i'w dŷ ei hun, i'w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad.
24. Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim. Ac Absalom a aeth dros yr Iorddonen, efe a holl wŷr Israel gydag ef.
25. Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu, Ac Amasa oedd fab i ŵr a'i enw Ithra, yr hwn oedd Israeliad, yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas, chwaer Serfia, mam Joab.
26. Felly y gwersyllodd Israel ac Absalom yng ngwlad Gilead.
27. A phan ddaeth Dafydd i Mahanaim, Sobi mab Nahas o Rabba meibion Ammon, a Machir mab Ammïel o Lo‐debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim,
28. A ddygasant welyau, a chawgiau, a llestri pridd, a gwenith, a haidd, a blawd, a chras ŷd, a ffa, a ffacbys, a chras bys,