7. A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Myfi a'th eneiniais di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a'th waredais di o law Saul:
8. Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a phe rhy fychan fuasai hynny, myfi a roddaswn i ti fwy o lawer.
9. Paham y dirmygaist air yr Arglwydd, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ureias yr Hethiad a drewaist ti â'r cleddyf, a'i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a thi a'i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon.
10. Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf â'th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti.
11. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a gyfodaf i'th erbyn ddrwg o'th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a'u rhoddaf hwynt i'th gymydog, ac efe a orwedd gyda'th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn.
12. Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul.
13. A dywedodd Dafydd wrth Nathan, Pechais yn erbyn yr Arglwydd. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr Arglwydd hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw.
14. Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr Arglwydd gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau.
15. A Nathan a aeth i'w dŷ. A'r Arglwydd a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd; ac efe a aeth yn glaf iawn.
16. Dafydd am hynny a ymbiliodd â Duw dros y bachgen; a Dafydd a ymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos.