17. Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn nyddiau Jotham brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel.
18. Meibion Reuben, a'r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, o wŷr nerthol, dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dysgu i ryfel, oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain, yn myned allan i ryfel.
19. A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, a Jetur, a Neffis, a Nodab.
20. A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i'w dwylo hwynt, a chwbl a'r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar Dduw yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd arnynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo.
21. A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt; o'u camelod hwynt ddengmil a deugain, ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd, ac o asynnod ddwy fil, ac o ddynion gan mil.
22. Canys llawer yn archolledig a fuant feirw, am fod y rhyfel oddi wrth Dduw; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.
23. A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir: o Basan hyd Baal‐hermon, a Senir, a mynydd Hermon, yr aethant hwy yn aml.
24. Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau, sef Effer, ac Isi, ac Eliel, ac Asriel, a Jeremeia, a Hodafia, a Jadiel, gwŷr cedyrn o nerth, gwŷr enwog, a phennau tŷ eu tadau.
25. A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau, ac a buteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlad, y rhai a ddinistriasai Duw o'u blaen hwynt.
26. A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd Tilgath‐pilneser brenin Asyria, ac a'u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid, a'r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a'u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara, ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.