1. A neilltuodd Dafydd, a thywysogion y llu, tuag at y gwasanaeth, o feibion Asaff, a Heman, a Jedwthwn, y rhai a broffwydent â thelynau, ac â nablau, ac â symbalau; a nifer y gweithwyr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd:
2. O feibion Asaff; Saccur, a Joseff, a Nethaneia, Asarela, meibion Asaff, dan law Asaff, yr hwn oedd yn proffwydo wrth law y brenin.
3. A Jedwthwn: meibion Jedwthwn; Gedaleia, a Seri, a Jesaia, a Hasabeia. Matitheia, chwech, dan law Jedwthwn eu tad, ar y delyn yn proffwydo, i foliannu ac i glodfori yr Arglwydd.
4. O Heman: meibion Heman; Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, a Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, a Romamti‐ieser, Josbecasa, Malothi, Hothir, a Mahasioth:
5. Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gweledydd y brenin yng ngeiriau Duw, i ddyrchafu'r corn. Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddeg o feibion, a thair o ferched.
6. Y rhai hyn oll oedd dan law eu tad yn canu yn nhŷ yr Arglwydd, â symbalau, a nablau, a thelynau, i wasanaeth tŷ Dduw; yn ôl trefn y brenin i Asaff, a Jedwthwn, a Heman.
7. A'u nifer hwynt, ynghyd â'u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr Arglwydd, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth.
8. A hwy a fwriasant goelbrennau, cylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a disgybl.