1. Aeth Iesu allan o'r deml, a phan oedd ar ei ffordd oddi yno daeth ei ddisgyblion ato i dynnu ei sylw at adeiladau'r deml.
2. Dywedodd yntau wrthynt, “Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.”
3. Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, “Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?”
4. Atebodd Iesu hwy, “Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo.
5. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw'r Meseia’, ac fe dwyllant lawer.
6. Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gofalwch beidio â chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.
7. Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd adegau o newyn a daeargrynfâu mewn mannau.
8. Ond dechrau'r gwewyr fydd hyn oll.
9. Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i.
10. A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd ac yn casáu ei gilydd.
11. Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer.