21. Dywedodd wrthynt, “A fydd rhywun yn dod â channwyll i'w dodi dan lestr neu dan wely? Onid yn hytrach i'w dodi ar ganhwyllbren?
22. Oherwydd nid oes dim yn guddiedig ond i gael ei amlygu, ac ni bu dim dan gêl ond i ddod i'r amlwg.
23. Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed.”
24. Dywedodd wrthynt hefyd, “Ystyriwch yr hyn a glywch. Â'r mesur y rhowch y rhoir i chwithau, a rhagor a roir ichwi.
25. Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.”
26. Ac meddai, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw: bydd dyn yn bwrw'r had ar y ddaear
27. ac yna'n cysgu'r nos a chodi'r dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu mewn modd nas gŵyr ef.
28. Ohoni ei hun y mae'r ddaear yn dwyn ffrwyth, eginyn yn gyntaf, yna tywysen, yna ŷd llawn yn y dywysen.
29. A phan fydd y cnwd wedi aeddfedu, y mae'n bwrw iddi ar unwaith â'r cryman, gan fod y cynhaeaf wedi dod.”