Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Marc 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Dameg yr Heuwr

1. Dechreuodd ddysgu eto ar lan y môr. A daeth tyrfa mor fawr ynghyd ato nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch ar y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa ar y tir wrth ymyl y môr.

2. Yr oedd yn dysgu llawer iddynt ar ddamhegion, ac wrth eu dysgu meddai:

3. “Gwrandewch! Aeth heuwr allan i hau.

4. Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta.

5. Syrthiodd peth arall ar dir creigiog, lle ni chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear;

6. a phan gododd yr haul fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.

7. Syrthiodd peth arall ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'i dagu, ac ni roddodd ffrwyth.

8. A syrthiodd hadau eraill ar dir da, a chan dyfu a chynyddu yr oeddent yn ffrwytho ac yn cnydio hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.”

9. Ac meddai, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”

Pwrpas y Damhegion

10. Pan oedd wrtho'i hun, dechreuodd y rhai oedd o'i gwmpas gyda'r Deuddeg ei holi am y damhegion.

11. Ac meddai wrthynt, “I chwi y mae cyfrinach teyrnas Dduw wedi ei rhoi; ond i'r rheini sydd oddi allan y mae popeth ar ddamhegion,

12. fel“ ‘er edrych ac edrych, na welant,ac er clywed a chlywed, na ddeallant,rhag iddynt droi'n ôl a derbyn maddeuant.’ ”

Egluro Dameg yr Heuwr

13. Ac meddai wrthynt, “Onid ydych yn deall y ddameg hon? Sut ynteu yr ydych yn mynd i ddeall yr holl ddamhegion?

14. Y mae'r heuwr yn hau y gair.

15. Dyma'r rhai ar hyd y llwybr lle'r heuir y gair: cyn gynted ag y clywant, daw Satan ar unwaith a chipio'r gair sydd wedi ei hau ynddynt.

16. A dyma'r rhai sy'n derbyn yr had ar dir creigiog: pan glywant hwy'r gair, derbyniant ef ar eu hunion yn llawen;

17. ond nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, a thros dro y maent yn para. Yna pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwympant ar unwaith.

18. Ac y mae eraill sy'n derbyn yr had ymhlith y drain: dyma'r rhai sydd wedi clywed y gair,

19. ond y mae gofalon y byd hwn a hudoliaeth golud a chwantau am bopeth o'r fath yn dod i mewn ac yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth.

20. A dyma'r rheini a dderbyniodd yr had ar dir da: y maent hwy'n clywed y gair ac yn ei groesawu, ac yn dwyn ffrwyth hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.”

Goleuni dan Lestr

21. Dywedodd wrthynt, “A fydd rhywun yn dod â channwyll i'w dodi dan lestr neu dan wely? Onid yn hytrach i'w dodi ar ganhwyllbren?

22. Oherwydd nid oes dim yn guddiedig ond i gael ei amlygu, ac ni bu dim dan gêl ond i ddod i'r amlwg.

23. Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed.”

24. Dywedodd wrthynt hefyd, “Ystyriwch yr hyn a glywch. Â'r mesur y rhowch y rhoir i chwithau, a rhagor a roir ichwi.

25. Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.”

Dameg yr Had yn Tyfu

26. Ac meddai, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw: bydd dyn yn bwrw'r had ar y ddaear

27. ac yna'n cysgu'r nos a chodi'r dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu mewn modd nas gŵyr ef.

28. Ohoni ei hun y mae'r ddaear yn dwyn ffrwyth, eginyn yn gyntaf, yna tywysen, yna ŷd llawn yn y dywysen.

29. A phan fydd y cnwd wedi aeddfedu, y mae'n bwrw iddi ar unwaith â'r cryman, gan fod y cynhaeaf wedi dod.”

Dameg yr Hedyn Mwstard

30. Meddai eto, “Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw, neu ar ba ddameg y cyflwynwn hi?

31. Y mae'n debyg i hedyn mwstard; pan heuir ef ar y ddaear, hwn yw'r lleiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear,

32. ond wedi ei hau, y mae'n tyfu ac yn mynd yn fwy na'r holl lysiau, ac yn dwyn canghennau mor fawr nes bod adar yr awyr yn gallu nythu dan ei gysgod.”

Arfer Damhegion

33. Ar lawer o'r fath ddamhegion yr oedd ef yn llefaru'r gair wrthynt, yn ôl fel y gallent wrando;

34. heb ddameg ni fyddai'n llefaru dim wrthynt. Ond o'r neilltu byddai'n egluro popeth i'w ddisgyblion ei hun.

Gostegu Storm

35. A'r diwrnod hwnnw, gyda'r nos, dywedodd wrthynt, “Awn drosodd i'r ochr draw.”

36. A gadawsant y dyrfa, a mynd ag ef yn y cwch fel yr oedd; yr oedd cychod eraill hefyd gydag ef.

37. Cododd tymestl fawr o wynt, ac yr oedd y tonnau'n ymdaflu i'r cwch, nes ei fod erbyn hyn yn llenwi.

38. Yr oedd ef yn starn y cwch yn cysgu ar glustog. Deffroesant ef a dweud wrtho, “Athro, a wyt ti'n hidio dim ei bod ar ben arnom?”

39. Ac fe ddeffrôdd a cheryddu'r gwynt a dweud wrth y môr, “Bydd ddistaw! Bydd dawel!” Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr.

40. A dywedodd wrthynt, “Pam y mae arnoch ofn? Sut yr ydych heb ffydd o hyd?”

41. Daeth ofn dirfawr arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo.”