3. gadewch inni frysio o'u blaen i gael y tŷ yn barod, tra bydd dy wraig a'r cwmni ar eu ffordd.”
4. Aeth y ddau ymlaen gyda'i gilydd. Yna dywedodd Raffael wrtho, “Cymer y bustl yn dy ddwylo.” Yr oedd y ci hefyd yn dilyn y tu ôl iddo ef a Tobias.
5. Yn y cyfamser yr oedd Anna'n eistedd, yn cadw llygad ar y ffordd yr aeth ei mab;
6. gwelodd ef yn dod, a dyma hi'n dweud wrth ei dad, “Y mae dy fab ar y ffordd, a'i gydymaith gydag ef.”
7. Cyn i Tobias ddod yn agos at ei dad, meddai Raffael wrtho, “Rwy'n berffaith siŵr y caiff ei olwg yn ôl.
8. Taena fustl y pysgodyn ar ei lygaid; bydd yr eli'n achosi i'r smotiau gwyn grebachu a syrthio i ffwrdd oddi ar ei lygaid. Yna caiff dy dad ei olwg yn ôl, a gweld golau dydd.”
9. A dyma Anna'n rhedeg at ei mab ac yn ei gofleidio. “Cefais dy weld, fy machgen,” meddai wrtho. “Rwy'n barod i farw yn awr.” A thorrodd i wylo.
10. Ar hynny cododd Tobit ar ei draed, a baglodd allan trwy ddrws y cyntedd.
11. Cerddodd Tobias ato â bustl y pysgodyn yn ei law; chwythodd ar ei lygaid, a chan afael yn dynn ynddo dywedodd, “Paid ag ofni, fy nhad.”
12. Rhoes yr eli ar ei lygaid a'i daenu drostynt.
13. Yna, â'i ddwy law fe dynnodd y bilen wen oddi ar gil llygaid ei dad. Cofleidiodd Tobit ei fab; torrodd i wylo a dweud,
14. “Rwy'n gallu dy weld, fy mhlentyn, goleuni fy llygaid.” Ychwanegodd, “Bendigedig fyddo Duw! Bendigedig fyddo'i enw mawr! Bendigedig fyddo'i holl angylion sanctaidd! Boed ei enw mawr arnom, a bendith ar ei holl angylion sanctaidd yn oes oesoedd!