8. a'i frodyr, gwŷr grymus, naw cant dau ddeg ac wyth.
9. Joel fab Sichri oedd yn oruchwyliwr arnynt, a Jwda fab Senua oedd dirprwy arolygwr y ddinas.
10. O'r offeiriaid: Jedaia fab Joiarib (hynny yw, Jachin),
11. Seraia fab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, arolygwr tŷ Dduw,
12. a nifer eu brodyr oedd yn gyfrifol am waith y deml oedd wyth gant dau ddeg a dau; ac Adaia fab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia,
13. a'i frodyr, pennau-teuluoedd, dau gant pedwar deg a dau; ac Amasai, fab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer,
14. a'i frodyr, dynion cyfrifol, cant dau ddeg ac wyth, a Sabdiel fab Haggedolim oedd yn oruchwyliwr arnynt.
15. Ac o'r Lefiaid: Semaia fab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia, fab Bunni;
16. a Sabbethai a Josabad o benaethiaid y Lefiaid oedd yn arolygu'r gwaith o'r tu allan i dŷ Dduw;
17. a Mataneia fab Meica, fab Sabdi, fab Asaff, arweinydd y mawl, oedd yn talu diolch yn ystod y gweddïau, a Bacbuceia, yr ail ymysg ei frodyr, ac Abda fab Sammua, fab Galal, fab Jeduthun.
18. Cyfanswm y Lefiaid yn y ddinas sanctaidd oedd dau gant wyth deg a phedwar.
19. Yr oedd y porthorion oedd yn gwylio'r pyrth, sef Accub, Talmon a'u brodyr, yn gant saith deg a dau.