11. os ildio a wnânt i ti, gwarchod hwy drosof hyd amser eu cosbi. Ond i'r rhai sy'n anufudd paid â dangos trugaredd; traddoda hwy i gael eu lladd a'u hysbeilio trwy'r holl ranbarth a berthyn iti.
12. Ar fy mywyd ac ar holl nerth fy mrenhiniaeth y tyngaf: yr hyn a leferais, fe'i cyflawnaf â'm llaw fy hun.
13. A thithau, paid ag anufuddhau i unrhyw un o orchmynion dy Arglwydd, ond cwbl gyflawna bopeth yn union fel y gorchmynnais iti. Gweithreda yn ddi-oed.”
14. Felly, wedi ymadael â llys ei Arglwydd, galwodd Holoffernes holl fawrion, cadfridogion a swyddogion byddin Asyria,
15. a chasglu milwyr dethol yn unol â gorchymyn ei Arglwydd, chwech ugain mil o filwyr traed a deuddeng mil o saethwyr ar feirch,
16. a threfnodd hwy yn y dull arferol ar gyfer brwydr.
17. Cymerodd nifer enfawr o gamelod, asynnod a mulod i gario eu cyfreidiau; defaid, ychen a geifr di-rif i sicrhau darpariaeth
18. a dogn ddigonol o fwyd i bob un; ac yn ychwanegol, swm enfawr o aur ac arian o blas y brenin.
19. Yna cychwynnodd, ef a'i holl fyddin, i arloesi'r ffordd i Nebuchadnesar a gorchuddio holl wyneb y rhanbarth gorllewinol a'u cerbydau, eu gwŷr meirch a'u gwŷr traed dethol.
20. Yr oedd y cwmni cymysgryw a'u dilynodd fel haid o locustiaid neu fel llwch y ddaear, yn llu dirifedi.
21. Aethant o Ninefe daith dridiau i ymyl gwastatir Bectileth, a gwersyllu gerllaw Bectileth yn agos i'r mynydd i'r gogledd o Cilicia Uchaf.
22. Oddi yno symudodd Holoffernes ymlaen i'r mynydd-dir gyda'i holl fyddin, ei wŷr traed a'i wŷr meirch a'i gerbydau.