7. Wedi iddynt ei godi, syrthiodd wrth draed Judith ac ymgrymu ger ei bron a dweud, “Bendigedig wyt ti trwy holl bebyll Jwda, ac ym mhob cenedl! Daw ofn dirfawr ar bawb a glywant dy enw.
8. Yn awr, adrodd imi hanes y cwbl a wnaethost yn ystod y dyddiau hyn.” A dyma Judith yn sefyll yng nghanol y bobl ac yn adrodd iddo'r cwbl yr oedd hi wedi ei wneud o'r dydd yr aeth allan hyd y foment yr oedd yn siarad â hwy.
9. Wedi iddi orffen, bloeddiodd y bobl â llais uchel, nes bod sŵn eu llawenydd yn atseinio trwy eu tref.
10. Pan welodd Achior y cwbl a wnaeth Duw Israel, credodd yn frwd yn Nuw; derbyniodd enwaediad a chael ei gorffori yn nhŷ Israel hyd y dydd hwn.
11. Pan wawriodd y bore, crogasant ben Holoffernes ar y mur, a chymerodd pob un ei arfau a mynd allan yn gatrodau i fylchau'r mynydd-dir.
12. Gwelodd yr Asyriaid hwy, ac anfon neges at eu harweinwyr; aethant hwythau at y cadfridogion, capteiniaid y miloedd, a phob swyddog arall.
13. Aethant i babell Holoffernes a dweud wrth yr un a ofalai am ei holl eiddo: “Yn awr, deffro ein harglwydd, oherwydd meiddiodd y caethweision ddod i lawr i ryfela yn ein herbyn, ac felly i gael eu llwyr ddifetha.”