2. Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais,na pheri ei glywed yn yr heol.
3. Ni fydd yn dryllio corsen ysig,nac yn diffodd llin yn mygu;bydd yn cyhoeddi barn gywir.
4. Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio,nes iddo osod barn ar y ddaear;y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith.”
5. Fel hyn y dywed Duw, yr ARGLWYDD,a greodd y nefoedd a'i thaenu allan,a luniodd y ddaear a'i chynnyrch,a roddodd anadl i'r bobl sydd arni,ac ysbryd i'r rhai sy'n rhodio ynddi:
6. “Myfi yw'r ARGLWYDD;gelwais di mewn cyfiawnder,a gafael yn dy law;lluniais di a'th osod yn gyfamod pobl,yn oleuni cenhedloedd;
7. i agor llygaid y deillion,i arwain caethion allan o'r carchar,a'r rhai sy'n byw mewn tywyllwch o'u cell.
8. Myfi yw'r ARGLWYDD, dyna fy enw;ni roddaf fy ngogoniant i neb arall,na'm clod i ddelwau cerfiedig.
9. Wele, y mae'r pethau cyntaf wedi digwydd,a mynegaf yn awr bethau newydd;cyn iddynt darddu rwy'n eu hysbysu ichwi.”
10. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,canwch ei glod o eithaf y ddaear;bydded i'r môr a'i gyflawnder ei ganmol,yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
11. Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef,y pentrefi lle mae Cedar yn trigo;bydded i drigolion Sela ganua bloeddio o ben y mynyddoedd.
12. Bydded iddynt roi clod i'r ARGLWYDD,a mynegi ei fawl yn yr ynysoedd.
13. Y mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel arwr,fel rhyfelwr yn cyffroi mewn llid;y mae'n bloeddio, yn codi ei lais,ac yn trechu ei elynion.
14. “Bûm dawel dros amser hir,yn ddistaw, ac yn ymatal;yn awr llefaf fel gwraig yn esgor,a gwingo a griddfan.
15. Gwnaf fynyddoedd a bryniau yn ddiffaith,a pheri i'w holl lysiau gleision wywo;gwnaf afonydd yn ynysoedd,a llynnau yn sychdir.
16. Yna arweiniaf y deillion ar hyd ffordd ddieithr,a'u tywys mewn llwybrau nad adnabuant;paraf i'r tywyllwch fod yn oleuni o'u blaen,ac unionaf ffyrdd troellog.Dyma a wnaf iddynt, ac ni adawaf hwy.