14. Fel ewig wedi ei tharfu,fel praidd heb neb i'w corlannu,bydd pawb yn troi at ei dylwyth,a phob un yn ffoi i'w gynefin.
15. Trywenir pob un a geir,a lleddir â'r cleddyf bob un a ddelir.
16. Dryllir eu plant o flaen eu llygaid,ysbeilir eu tai, treisir eu gwragedd.
17. Wele, yr wyf yn cyffroi yn eu herbyn y Mediaid,rhai nad yw arian yn cyfrif ganddynt,ac na roddant bris ar aur.
18. Dryllia'u bwâu y gwŷr ifanc;ni thosturiant wrth ffrwyth y groth,nac edrych yn drugarog ar blant.
19. A bydd Babilon, yr odidocaf o'r teyrnasoedd,a gogoniant ysblennydd y Caldeaid,fel Sodom a Gomorrawedi i Dduw eu dinistrio.
20. Ni chyfanheddir hi o gwbl,na phreswylio ynddi dros y cenedlaethau;ni phabella'r Arab o'i mewn,ac ni chorlanna'r bugail ynddi.
21. Ond bydd anifeiliaid gwyllt yn gorwedd yno;llenwir hi gan ffeuau i greaduriaid swnllyd;bydd yr estrys yn trigo yno, a bychod yn llamu yno;
22. bydd y siacal yn cyfarth yn ei thyrau,a'r hiena yn ei phlastai hyfryd.Y mae ei hamser wrth law,ac nid estynnir ei dyddiau.