1. Paid â bod yn eiddigeddus wrth wraig dy fynwes,na'i hyfforddi i ymarfer drwg er niwed i ti dy hun.
2. Paid â'th roi dy hun i ferch,a gadael iddi ymosod ar dy gryfder di.
3. Paid â mynd i gyfarfod merch lac ei moesau,rhag iti syrthio i'w maglau hi.
4. Paid ag oedi yng nghwmni dawnsferch,rhag iti gael dy ddal gan ei hystrywiau hi.
5. Paid â chraffu ar wyryf,rhag iti gael dy rwydo a gorfod talu iawn amdani.
6. Paid â'th roi dy hun i buteiniaid,rhag iti golli dy etifeddiaeth.
7. Paid ag edrych o'th gwmpas yn heolydd y ddinas,nac ymdroi yn ei lleoedd anial.
8. Tro dy lygad oddi wrth wraig brydweddol,a phaid â chraffu ar brydferthwch gwraig dyn arall;o achos prydferthwch gwraig aeth llawer ar gyfeiliorn,a thrwyddo cyneuir serch fel tân.
9. Paid byth â chydeistedd â gwraig briod,nac ymuno â hi mewn gloddest a gwin,rhag iti osod dy fryd arni,a llithro ohonot i ddinistr llwyr.