15. Ychydig y mae'n ei roi, ond yn edliw llawer,ac yn agor ei geg fel cyhoeddwr;rhoi benthyg heddiw, a gofyn amdano'n ôl yfory;cas gan bawb yw un o'r fath.
16. Dywed y ffŵl, “Nid oes gennyf gyfaill,ac nid oes diolch am fy nghymwynasau.”
17. Y rhai sy'n bwyta'i fara, drygair sydd ganddynt iddo;chwerthin am ei ben y bydd pawb, a hynny'n aml.
18. Gwell llithro ar balmant na llithro â'r tafod;fodd bynnag, buan y daw cwymp y drygionus.
19. Y mae rhywun di-chwaeth fel chwedl anamserolsydd beunydd ar enau'r diaddysg.
20. Os daw dameg o enau ffŵl fe'i gwrthodir,oherwydd nid yw byth yn ei hadrodd yn ei hiawn bryd.
21. Cedwir ambell un rhag pechu gan dlodi,a chaiff orffwys â chydwybod dawel.
22. Y mae ambell un yn ei ddifetha'i hun â'i swildod,neu â'r olwg ynfyd a geir arno.
23. Y mae ambell un rhag cywilydd yn rhoi addewid i gyfaillac yn ei droi'n elyn yn ddiachos.
24. Bai drwg mewn rhywun yw celwydd:y mae beunydd ar enau'r diaddysg.
25. Dewisach lleidr na rhywun sy'n palu celwyddau,ond distryw fydd rhan y ddau.