6. Pan fydd arno d'eisiau, dy dwyllo a wna,a gwenu arnat a meithrin gobaith ynot;fe sieryd yn deg â thi a gofyn, “Beth sydd arnat ei eisiau?”
7. Fe gwyd gywilydd arnat â'i fwydydd ei hun,nes dy ddisbyddu'n llwyr ddwywaith neu dair;ac yn y diwedd bydd yn chwerthin am dy ben.Ar ôl hyn oll, pan wêl di, fe'th anwybydda,ac ysgwyd ei ben arnat.
8. Gwylia rhag dy gamarwainna'th ddarostwng yn dy ffolineb.
9. Paid â bod yn rhy barod i dderbyn gwahoddiad gan lywodraethwr,a bydd yntau gymaint â hynny'n daerach ei wahoddiad.
10. Paid ag ymwthio arno, rhag iddo dy wthio ymaith;ond paid â sefyll yn rhy bell, rhag iddo dy anghofio.
11. Paid â beiddio siarad ag ef fel un cydradd,a phaid ag ymddiried yn amlder ei eiriau,oherwydd rhoi prawf arnat y bydd â'i siarad hir,a'th chwilio a gwên ar ei wyneb.
12. Didrugaredd yw'r sawl nad yw'n cadw dy gyfrinachau,ac ni'th arbed rhag drygfyd na charchar.
13. Cadw dy gyfrinach i ti dy hun a chymer ofal mawr,oherwydd cerdded yr wyt ar ymyl y dibyn.
15. Y mae pob anifail yn caru ei debyg,a phob un dynol ei gymydog.
16. Y mae'r holl greaduriaid yn ymgasglu yn ôl eu rhywogaeth,a'r dynol yn ymlynu wrth ei debyg.
17. Pa gymdeithas fydd rhwng blaidd ac oen?Felly y mae rhwng y pechadurus a'r duwiol.
18. Pa heddwch fydd rhwng udfil a chi?A pha heddwch rhwng cyfoethog a thlawd?
19. Helfa i lewod yw asynnod gwylltion yr anialwch;a phorfa i gyfoethogion yw'r tlodion yr un modd.