1. Gwrandewch, blant, ar gyfarwyddyd tad,ac ystyriwch i chwi ddysgu deall.
2. Oherwydd yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da;peidiwch â gwrthod fy nysgeidiaeth.
3. Bûm innau hefyd yn fab i'm tad,yn annwyl, ac yn unig blentyn fy mam.
4. Dysgodd yntau fi, a dweud wrthyf,“Gosod dy feddwl ar fy ngeiriau;cadw fy ngorchmynion iti gael byw.
5. Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau.Cais ddoethineb, cais ddeall;
6. paid â'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw;câr hi, a bydd yn d'amddiffyn.
7. Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb;â'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall.
8. Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi;fe'th anrhydedda, os cofleidi hi.
9. Gesyd dorch brydferth ar dy ben,a rhoi coron anrhydedd iti.”
10. Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau,ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
11. Hyfforddais di yn ffordd doethineb;dysgais iti gerdded llwybrau union.
12. Pan gerddi, ni rwystrir dy gam,a phan redi, ni fyddi'n baglu.
13. Glŷn wrth addysg, a hynny'n ddiollwng;dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd.
14. Paid â dilyn llwybr y drygionus,na cherdded ffordd pobl ddrwg;
15. gochel hi, paid â'i throedio,tro oddi wrthi a dos yn dy flaen.